Neidio i'r cynnwys

Ardal Ryedale

Oddi ar Wicipedia
Ardal Ryedale
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
PrifddinasMalton Edit this on Wikidata
Poblogaeth54,920 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,506.5937 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.139°N 0.79°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000167 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Ryedale District Council Edit this on Wikidata
Map

Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Ardal Ryedale (Saesneg: Ryedale District).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,507 km², gyda 55,380 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Scarborough i’r dwyrain, y Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i’r de-ddwyrain, Dinas Efrog i’r de-orllewin, ac Ardal Hambleton i’r gorllewin.

Ardal Ryedale yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd plwyfi Clifton Allanol, Earswick, Haxby, Heworth Allanol, Holtby, Huntington, Earswick Newydd, Osbaldwick, Skelton, Stockton-on-the-Forest, Strensall, Towthorpe a Wiggington i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.[2]

Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Malton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Helmsley, Kirkbymoorside, Norton-on-Derwent, a Pickering. Mae rhannau o’r ardal ym Mro Pickering a’r Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog.

Mae enw yr ardal yn dod o ddyffryn Afon Rye, yng ngorllewin y Gweunydd Gogledd Swydd Efrog. Gair sy’n golygu "dyffryn" yng Ngogledd Lloegr yw dale, felly mae Ryedale yn golygu "Cwm Rye".

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]